Pererin wyf ar daith,
A'm ffordd yn faith, a phell,
Yn ceisio myn'd, a minau'n wan,
Tua gwlad a chartref gwell;
Mae rhwystrau bron fy nal,
A'm hatal weithiau'n ol,
O! tỳn fi — tỳn fi, Iesu da!
Mi a redaf ar dy ol.
O! brysia, Arglwydd! mwy -
Dy ddysgwyl 'rwyf bob dydd,
A thôr fy holl gadwynau câs -
Gwna, fi â'th ras yn rhydd;
Nid wyf am orphwys mwy
Nes byddwyf yn dy gôl,
O! tỳn fi — tỳn fi, Iesu da!
Mi a redaf ar dy ol.
'Rwyf yn terfynu 'nghred
'Rol pwyso oll ynghyd,
Mai cyfnewidiol ydyw dyn,
Ond Duw sy'r un o hyd:
Ar ei ffyddlondeb ef,
Sy'n noddfa gref i'r gwan,
Mi gredaf dof mhen gronyn bach,
O'r tonnau'n iach i'r lan.
1-2: Dafydd Jones 1711-773 : William Williams 1717-91
Tonau [MBD 6686D]:
gwelir: |
I am a pilgrim on a journey, And my road is long and far, Trying to go, and I weak, Towards a better land and home; Obstructions are almost keeping me, And sometimes holding me back, Oh draw me - draw me, good Jesus! I will run after thee. Oh hurry, Lord! Henceforth - I will watch for thee every day, And break all my hated chains - Make me free by thy grace; I shall no longer rest Until I am in thy bosom, Oh draw me - draw me, good Jesus! I will run after thee. I am concluding my belief After weighing all together That changeable is man, But God is always the same: On his faithfulness, Which is a strong refuge to the weak, I believe I shall come in a little bit, From the waves, whole, to the shore.tr. 2012 Richard B Gillion |
|